Lleoliad:
Rhithwir - Digidol
Dyddiad: Dydd Iau, 2 Mawrth 2023
Amser: 9.30 – 11.45
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Bwrdd |
Dr Elizabeth Haywood (Cadeirydd); David Hanson; Michael Redhouse; Jane Roberts; Hugh Widdis. |
Ysgrifenyddiaeth: |
Huw Gapper, Clerc; Angharad Coupar, Dirprwy Glerc; Anna Daniel, Uwch-gynghorydd i’r Bwrdd; David Lakin, Cefnogaeth i'r Bwrdd; Kate Rabaiotti, Cynghorydd Cyfreithiol i'r Bwrdd; Bethan Davies, Pennaeth Cefnogaeth ac Ymgysylltu â’r Aelodau; Martin Jennings, Arweinydd Tîm Ymchwil, Uned Craffu Ariannol; |
Cyfranogwyr: |
Lisa Bowkett, Pennaeth Cyllid |
1 Cyflwyniad y Cadeirydd (9.30 - 9.35)
- Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
- Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf am ddyddiad posibl ar gyfer cyfarfod rhwng y cyrff sy'n gyfrifol am bennu tâl yr Aelodau ar gyfer pedair deddfwrfa'r DU. Dywedodd pob aelod o’r Bwrdd, ac eithrio un, y byddent ar gael i ddod i’r cyfarfod hwn.
- Dywedodd y Cadeirydd fod llythyr wedi’i anfon at y Bwrdd Pensiynau i geisio’i farn am newidiadau posibl i Reolau Cynllun Pensiwn yr Aelodau, i sicrhau na fydd cyfraniadau a buddion pensiwn yr Aelodau yn gostwng os byddant yn prynu car drwy Gynllun Aberthu Cyflog Cerbydau Trydan y Comisiwn.
- Cafodd aelodau’r Bwrdd eu hatgoffa hefyd fod angen adolygiad cyffredinol o'r Rheolau i sicrhau eu bod yn gyfredol, er enghraifft i sicrhau bod yr iaith a ddefnyddir yn niwtral o ran rhywedd. Cytunodd y Bwrdd y dylid cynnal yr adolygiad hwn ar yr un pryd ag y caiff y Rheolau eu hadolygu mewn perthynas â'r Cynllun Cerbydau Trydan.
- Clywodd y Bwrdd y bydd angen newid Rheolau'r Cynllun Pensiwn hefyd, o bosibl, mewn perthynas ag ymddeol yn hwyr. Bydd y Bwrdd Pensiynau’n rhoi gwybodaeth i’r Bwrdd yn y cyswllt hwn.
- Cytunodd y Bwrdd mewn egwyddor i roi cyfarwyddyd i’r Cyfreithwyr Allanol, Eversheds, wneud y newidiadau perthnasol i Reolau'r Cynllun Pensiwn, gan ddibynnu ar y gost a chyhyd ag y byddai’r gwaith yn cael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
- Cytunodd y Bwrdd i ddirprwyo’r cyfrifoldeb am gytuno ar y newidiadau perthnasol i Reolau’r Cynllun Pensiwn i Mike Redhouse (sef yr aelod arweiniol ar faterion pensiwn) a'r Cadeirydd.
- Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Chwefror.
2 Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2023-24 - Trafodaeth gychwynnol o'r ymatebion i'r ymgynghoriad (09.35 - 11.00)
- Trafododd y Bwrdd yr ymatebion i’r ymgynghoriad ynghylch yr Adolygiad Blynyddol o’r Penderfyniad, i lywio penderfyniadau ynghylch y Penderfyniad ar gyfer 2023/23 a gaiff eu gwneud yng nghyfarfod y Bwrdd ar 16 Mawrth.
3 Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad ar gyfer 2023-24 - Trafodaeth gychwynnol o'r ymatebion i'r ymgynghoriad (11.15 - 12.00)
4 Gohebiaeth i'w nodi (12.15 - 12.30)